Chwaraeon

LC neuadd chwaraeon ac arddangos amlbwrpas ddwbl lle cynhelir gwledd o weithgareddau, digwyddiadau a chwaraeon, ac mae wedi’i henwi’n un o gyfleusterau hyfforddi swyddogol ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain 2012.

Mae’r LC yn cynnal gweithgareddau i bobl ifanc ac i oedolion gan amrywio o drampolinio a gymnasteg i bêl-rwyd a phêl-droed. I weld y rhestr lawn, darllenwch lyfryn yr LC,Popeth Dan yr Unto, neu gallwch chwilio trwy weithgareddau’r LC ar y we.

Mae’r LC yn gartref hefyd i: Ysgol Berfformio Mark Jermin, Badminton Ice, Pêl-fasged Storm a llawer o glybiau ac ysgolion eraill. Ewch i’r dudalen Clybiau a Chwaraeon yn yr LC i weld sut i gymryd rhan neu sut i ddod â’ch clwb neu’ch ysgol i’r LC.

Os ydych yn trefnu digwyddiad, arddangosfa, sioe neu gystadleuaeth chwaraeon, efallai bydd tîm digwyddiadau’r LC yn gallu eich helpu: Digwyddiadau ac Achlysuron yn yr LC

Opening Times & Prices

Dydd Llun – dydd Gwener: 6.30am – 10.00pm

Dydd Sadwrn – dydd Sul: 8.00am – 9.00pm

Cwrt Pêl-droed/Pêl-fasged: £37.50 yr awr

Cwrt Badminton: £8.00 yr awr

Cwrt Tenis Bwrdd: £5 yr awr

(Gofynnir am flaendal ad-daladwy i ddefnyddio’r cyfarpar badminton/bwrdd tenis)

(Darllenwch lyfryn yr LC, Popeth dan yr Unto, i weld oriau a phrisiau gweithgareddau unigol)

Trefnwch eich ymweliad ymlaen llaw trwy ffonio 01792 466500 (Opsiwn 1 ac yna opsiwn)

More Information

Mae pecynnau trefnu ymweliadau grŵp ar gael i logi’r neuadd chwaraeon. Ffoniwch ein Tîm Trefnu Ymweliadau Grŵp ar 01792 848719 i ddod â’ch clwb neu dîm i’r LC.

Cliciwch yma i weld golygfeydd 360˚o’n Neuadd Chwaraeon