Gwobrau Twristiaeth Bae Abertawe
18 Hyd 2010
Mae’r LC yn falch i gyhoeddi ein bod wedi cael ein henwebu am 2 gategori yng Ngwobrau Twristiaeth Bae Abertawe!
Cynhelir y seremoni wobrwyo ar 11 Tachwedd 2010 sy’n dathlu dyfeisgarwch a rhagoriaeth yn y diwydiant twristiaeth yn Abertawe.
Enwebwyd yr LC am y Profiad Gorau i Ymwelwyr a’r Atyniad Gorau i Ymwelwyr. Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi pleidleisio drosom. Mae pawb yn yr LC yn hapus iawn, yn enwedig gan ein bod newydd dderbyn Gwobr am yr Atyniad Gorau i Ymwelwyr gan y Gwobrau Diwylliant a Ffordd o Fyw, ac rydym wedi cael ein henwebu am wobr genedlaethol, a gynhelir ddydd Iau!



